Symudodd Brian i Alltwen ym 1989 a bu’n dysgu mathemateg yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot nes iddo ymddeol ym mis Awst 2014. Cafodd ei fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a dysgodd Gymraeg fel oedolyn. Aeth Brian i Brifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg, ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd leoliad blwyddyn yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Harwell. Yn sgil y profiad hwn, mae bellach yn gwrthwynebu ynni niwclear ac mae wedi bod yn weithredol yn CND Cymru ers blynyddoedd. Bu Brian yn Gynghorydd Cymuned am 8 mlynedd, ac yn llywodraethwr ysgol am 5 mlynedd.