Mae Christine yn Swyddog Trafnidiaeth/Gyrrwr ar gyfer Cydweithfa Taith AAT. Mae hi’n fam sengl hynod annibynnol i’w mab ifanc hyfryd a’i babi ffwr (Chihuahua). Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau pob math o grefftau o wau i wydr lliw a hyd yn oed ychydig o DIY – ond peidiwch â dwyn ei sgriwdreifer!