Mike yw ein Cyfarwyddwr Datblygu ar gyfer Egni Co-op ac mae ganddo 10 mlynedd a mwy o brofiad mewn amrywiaeth o dechnolegau adnewyddadwy gan gynnwys Solar PV, Storio mewn Batris a phwyntiau gwefru Cerbydau Trydan mewn lleoliadau domestig a masnachol. Mae ganddo arbenigedd sylweddol mewn gweithredu a datrys problemau sy’n ymwneud â thechnolegau adnewyddadwy ac mae’n ymdrin â materion megis atgyweirio, amserlennu, gweithrediadau a chynnal a chadw gyda chreadigedd naturiol a chynllunio manwl. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn technolegau newydd, arloesi a gweithio tuag at yfory gwyrddach i bawb. Yn ei amser hamdden mae wrth ei fodd yn mynd â’i gi, Jensen, am dro ym mharc cenedlaethol hardd Sir Benfro.