Ymunodd Lisa ag Awel Aman Tawe yn 2022 fel Swyddog Cyllid. Cyn hynny bu’n gweithio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am 5 mlynedd fel Swyddog Cyllid a Chyflogres. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi gweinyddol a chyllid, yn y sector preifat, cyhoeddus ac elusennol. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar gyfer cymhwyster ACCA. Pan nad yw hi’n brysur yn gweithio neu’n astudio, fe welwch hi yn yr ardd, allan yn rhedeg neu’n cerdded, neu’n teithio i lefydd newydd a diddorol.