Roedd Dan yn gyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe (AAT) ym 1998 ac mae wedi gweithio i’r sefydliad ers hynny. Mae Dan wedi ymgymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Mae Dan wedi gweithio gynt i Oxfam yn Irac ac yn Swdan. Mae’n siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Arabeg. Derbyniodd MBE am wasanaethau i ynni cymunedol yn 2019. E-bost Dan: dan@awel.coop