Wrth i nifer cynyddol o Argyfyngau Hinsawdd gael eu cyhoeddi ar draws Cymru, mae Cynghorau Cymuned yn achub y blaen drwy osod ynni adnewyddadwy.
Mae nifer wedi cydweithio gydag Egni Coop i osod paneli solar.
Meddai Dan McCallum, cyd-gyfarwyddwr Egni “ Rydym wedi gweithio gyda nifer o gynghorwyr cymuned rhagorol sy’n dymuno cymryd yr awenau o ran newid hinsawdd. Mae Cynghorau Cymuned yn aml yn berchen ar ganolfannau cymunedol a ddefnyddir yn helaeth gan grwpiau gwirfoddol lleol. Mae’r rhain yn safleoedd pwysig gan fod y paneli solar arnynt yn weladwy iawn i lawer o bobl yn yr ardal sy’n defnyddio’r cyfleusterau. Mae Egni Coop eisiau lleihau’r costau trydan ar gyfer yr adeiladau hyn ac ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar newid hinsawdd.
Rydym hefyd yn wir edmygu cymaint o ofal mae’r Cynghorau Cymuned wedi’i gymryd. Cynhaliodd Cyngor Cymuned East Williamston drafodaethau manwl gyda ni cyn i ni osod system 10kw, fel y gwnaeth Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn hefyd lle rydym newydd osod 4kw – gallwch weld y cynhyrchiant ar Neuadd Hirwaun hyd yma – mae 30kg o CO2 wedi cael ei arbed.
Aeth Cyngor Cymuned Penllergaer i weld ein safle Egni presennol yng Ngweithdai Dove i asesu ansawdd y gosodiad – bydd 4kw yn cael ei osod ar eu Neuadd dros yr wythnosau nesaf. Mae adeilad Gweithdy Dove, lle rydym wedi gosod system 21kw, yn perthyn i Gyngor Cymuned Onllwyn. Gellir gweld y cynhyrchiant yn Dove yma . Mae un arall o’n safleoedd, Neuadd Gymunedol Blaendulais, sydd â gosodiad mwy helaeth o 30kw, yn perthyn i’r Cyngor Cymuned lleol hefyd.
Mae gennym 5 safle Cyngor Cymuned arall lle mae’r cytundebau cyfreithiol ar gyfer solar rhwng Egni a’r Cyngor yn dod i ben ar hyn o bryd – gobeithiwn y byddwn yn cyhoeddi ac yn gosod y rheiny cyn y Nadolig.
Er bod y safleoedd yn gymharol fach, maint yn sylweddol gyda’i gilydd ac maen nhw yng nghanol eu cymunedau. Mae hefyd yn helpu i lanhau’r grid gan fod unrhyw drydan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar y safle’n cael ei allforio i’r grid. Ac mae hefyd yn ffordd dda o gefnogi swyddi yng Nghymru gan fod ein holl osodwyr a restrir isod, yn rhai lleol.”
Safleoedd Cyngor Cymuned
Safle | kw | Gosodwr |
Neuadd Bentref Hirwaun | 4 | Urban Solar Ltd |
Neuadd Gymunedol East Williamston | 10 | Preseli Solar Ltd |
Neuadd Bentref Penllergaer | 4 | Caplor Ltd |
Neuadd Gymunedol Blaendulais | 30 | Solarfit Ltd |
Gweithdai Dove | 21 | Solarfit Ltd |
Cyfanswm | 69 |