Mae Egni Coop yn dathlu gosod dau safle solar newydd – system 4 kW ar Ganolfan Gymunedol Creunant yng Nghastell-nedd Port Talbot a 10 kW ar Ganolfan Gymunedol Llanbradach, Caerffili. Mae’r ddwy ganolfan yn hybiau cymunedol yn eu hardaloedd priodol gan gynnig amrywiaeth o gyfleusterau a chyfleoedd i bobl leol.
Meddai Cyfarwyddwr Egni Coop, Rosie Gillam “Rydym yn falch iawn o’r prosiectau hyn. Mae’r rhain yn ddau sefydliad gwych ac, o’r cychwyn cyntaf, roedden nhw eisiau helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy leihau’r allyriadau carbon o’u hadeiladau. Hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n defnyddio’r trydan solar ar eu safle ar adegau tawel neu pan fyddan nhw ar gau, bydd yn cael ei allforio i’r grid gan helpu i ‘wyrddu’ ein cyflenwad ynni. Trwy weithio gydag Egni i osod solar ar eu toeon, mae hefyd yn gostwng eu costau trydan ac yn darparu mwy o sefydlogrwydd iddynt yn y dyfodol gan fod y prisiau trydan gan eu prif gyflenwyr yn siŵr o godi. Rydym hefyd eisiau datblygu ein rhaglen addysg yn y dyfodol ac mae’n hanfodol bod gennym hybiau lleol fel hyn fel y gall ein hysgolion ddysgu am ynni adnewyddadwy a newid hinsawdd mewn lleoliadau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r paneli yng Nghreunant ar-lein yn barod yma fel y gall ysgolion a phobl leol weld faint maen nhw’n ei gynhyrchu, a bydd y rhai yn Llanbradach yn mynd ar-lein yn y diwrnodau nesaf.”
Ychwanegodd un o’r Cyfarwyddwyr eraill, Dan McCallum “Yn ystod yr wythnos hon pan fod arweinwyr y byd yn y gynhadledd newid hinsawdd yn Madrid, a phan fod y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio nad ydym yn gweithredu’n ddigon cyflym, mae’n hanfodol bod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn gwneud newidiadau gwirioneddol ar lefel gymunedol. Nid yw’r rhain yn safleoedd anferth ac nid ydynt yn mynd i ddatrys newid hinsawdd ar eu pen eu hun, ond ar y cyd, mae’r safleoedd hyn yn gwneud gwahaniaeth ac mae’n rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Rydym yn cael ein hysbrydoli gan enghraifft Greta Thunberg sydd wedi dangos sut gall gweithred fechan gan ferch ysgol y tu allan i’r Senedd yn Sweden, gael effaith byd-eang. Nid oes rhaid i ni esbonio bellach pam mae newid hinsawdd yn bwysig – mae Greta Thunberg wedi gwneud hyn yn fwy effeithiol nag unrhyw un arall ar y blaned.
Rydym hefyd eisiau cydnabod rôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Caerffili yn gwneud i’r prosiectau hyn ddigwydd. Maen nhw’n berchen ar yr adeiladau priodol ac yn eu prydlesu i’r grwpiau cymunedol. Felly mae’n rhaid bod ein cytundeb cyfreithiol yn cael ei wneud gyda’r cynghorau a’r grwpiau. Roedd delio â’r ddwy set o swyddogion Cyngor yn brofiad rhagorol ac fe wnaethon nhw ymrwymo’n llawn i’r prosiect unwaith y clywsant amdano. Rydym yn gwybod bod swyddogion Cyngor yn brysur iawn ar ôl yr holl doriadau sy’n cael eu gwneud, ond roeddem yn fodlon iawn ar y ffordd gwnaethant wthio hyn drwodd. Mae’n rhoi gobaith i ni wrth weld y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yn cydweithio mor effeithiol yng Nghymru. Mae hyn yn goron ar bythefnos dda i ni – yr wythnos ddiwethaf, cafodd Egni ei gydnabod fel y Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn gwobr a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn y Gwobrau Academi Cynaliadwy.
Ychwanegodd Rosie “Gosodwyd y paneli gan y gosodwyr Cymreig, Styles Electrical yng Nghreunant ac Ice Power yn Llanbradach a gwnaeth y ddau gwmni waith rhagorol.”
Ni fyddai hyn wedi digwydd o gwbl heb y cyllid at gyfer astudiaeth ddichonoldeb. Rydym eisiau estyn diolch arbennig i’r Rhaglen Datblygu Gwledig/ Llywodraeth Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot am ariannu’r astudiaeth ddichonoldeb yng Nghreunant, a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru am ariannu’r astudiaeth ddichonoldeb yn Llanbradach. Roedd hyn yn dadrisgio’r prosiectau gan ein galluogi i ariannu costau’r gosodiadau solar o’n Cynnig Cyfranddaliadau sydd bellach wedi codi £1.3m. Gall pobl ymuno â’n coop a buddsoddi o £50 i fyny – ewch i www.egni.coop am ragor o wybodaeth a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i’n helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”