Mae cwmni cydweithredol ynni cymunedol Cymreig yn dathlu dod yn gwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf y DU yn ystod Pythefnos Ynni Cymunedol. Mae Egni Co-op wedi gosod 4.3MWp o gapasiti solar, y swm mwyaf o blith yr holl gwmnïau cydweithredol yn y DU, ar 88 safle ar draws Cymru – mae’r rhain yn cynnwys ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol. Mae’r holl warged yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysg newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion. Mae ei gynnig cyfranddaliadau ar agor o hyd ar gyfer buddsoddiadau o gyn lleied â £50 ac mae wedi codi £4.38m tuag at ei darged o £46m. Cewch fwy o wybodaeth yn www.egni.coop
Meddai’r cyd-gyfarwyddwr, Rosie Gillam “Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant hwn. Mae’n dangos bod Cymru’n wlad gydweithredol. Mae’r rhan fwyaf o’n capasiti wedi cael ei osod dros y flwyddyn ddiwethaf. Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb ein partneriaethau gwych gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig Cyngor Dinas Casnewydd a arweiniodd y ffordd, a hefyd Cynghorau Abertawe a Sir Benfro.
Rydym hefyd wedi cael cymorth aruthrol gan gwmnïau cydweithredol ynni eraill ar draws y DU – ni fyddai hyn yn digwydd mewn unrhyw sector arall. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd un ohonynt wedi dal i fyny â ni y tro hwn y flwyddyn nesaf! Mae grwpiau fel Brighton Energy Co-op, Dorset Community Energy, Bristol Energy Co-op, Communities for Renewables, Big Solar Co-op, Solar for Schools a Schools Energy Co-op wedi bod yn ffynhonnell wych o gyngor ac ysbrydoliaeth. Un enghraifft oedd y Low Carbon Hub yn Swydd Rydychen a gafodd ymholiad gan ffatri Pullmaflex Cyf yn Rhydaman – trosglwyddon nhw’r cais i ni gan ein bod i lawr y ffordd. Rydym bellach wedi gosod 200kW o solar yno, un o’n gosodiadau mwyaf. Mae’r pŵer bron i gyd yn cael ei ddefnyddio yn y ffatri, gan gefnogi swyddi lleol drwy ynni rhatach, a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Disgrifiodd y cyd-gyfarwyddwr, Dan McCallum, y rhan y gall cwmnïau cydweithredol ynni cymunedol fel Egni ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ynghyd â phwysigrwydd partneriaethau. “Arbedodd Egni £108,000 mewn costau trydan i’w safleoedd y llynedd, gan atal allyrru mwy na 1,000 o dunelli o CO2. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sefydliad Bevan ac Unltd adroddiad craff sydd ar gael croeso@awel.coop. Ac er gwaethaf awgrymiadau i’r gwrthwyneb, mae twf Egni hefyd yn brawf ei bod yn heulog yng Nghymru fel arfer!”
Dywedodd Jim Cardy o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru “Mae clywed bod Cymru ar y blaen yn newyddion gwych, yn enwedig wrth i ni ddynesu at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yn y DU, yn Glasgow, ym mis Tachwedd. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Egni gyda grantiau a chyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”
Ynglŷn ag Egni
Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. www.egni.coop
Mae’r holl safleoedd yn cael eu cefnogi gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru.
Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0
Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.
Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.
Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818
Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.
E-bost: enquiries@energyservice.wales