Mae gan Awel Aman Tawe ddwy swydd i’w llenwi:
Rheolwr Cyllid profiadol ac uchel ei gymhelliant. Rhan o gyfrifoldebau’r person hwn fydd cefnogi twf Egni Co-op drwy reoli ei faterion ariannol. Rydyn ni’n chwilio am gyfrifydd cymwysedig neu rannol gymwysedig, sydd â diddordeb yn y sector elusennau. Mae’n gontract tair blynedd â chyflog rhwng £32-35k pro rata. Byddem yn fodlon ystyried ymgeiswyr sydd eisiau gweithio’n rhan amser neu’n amser llawn, 3-5 diwrnod/wythnos. Gallwch weld y Disgrifiad Swydd yma
Mae’r ail swydd ar gyfer Swyddog Datblygu Cymunedol – Atebion Cludiant Cynaliadwy a fydd yn datblygu maes gwaith newydd yn cefnogi mynediad y cyhoedd at gludiant carbon isel (ceir a beiciau trydan). Nid oes angen profiad blaenorol o gludiant arnoch, ond mae’n rhaid i chi fod yn berson trefnus, brwdfrydig sy’n gallu gweithio ar lefel y gymuned. Bydd yr ymgeisydd cywir yn cydweithio’n agos â darparwyr cludiant yn y rhanbarth i sicrhau ein bod yn ategu’r gwasanaethau presennol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn datblygu ein cyfranogiad mewn prosiectau a ariennir gan Loteri Cymru i sefydlu yma
Mae AAT yn gweithio ar nifer o brosiectau yn cynnwys ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, effeithlonrwydd ynni, y celfyddydau ac addysg. Mae gan AAT dîm sy’n tyfu, yn cynnwys 4 aelod staff amser llawn a 5 rhan amser. Rydym wedi ennill nifer o wobrau am ein gwaith yn cynnwys Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn y DU yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol 2019. Rydym wedi datblygu dau gwmni cydweithredol gyda dros 1500 o aelodau, ac wedi codi £15 miliwn i’w cynnal drwy gyfranddaliadau cymunedol a chyllid banc. Mae AAT yn darparu rheolaeth a gweinyddiaeth i’r ddau:
- Awel Co-op /Awel y Gwrhyd CIC, sy’n berchen ar gynllun gwynt dau dyrbin 4.7MW ar fynydd y Gwrhyd uwchlaw Pontardawe www.egni.coop“>www.egni.coop
- Ar hyn o bryd, mae AAT hefyd yn datblygu Hwb y Gors – canolfan addysg, menter a’r celfyddydau ddi-garbon newydd yn hen ysgol gynradd Cwm-gors.
Mae gennym Swyddog Addysg hefyd, Jen James, sy’n gweithio gydag ysgolion sydd â phaneli solar Egni i leihau allyriadau carbon ymhellach ac ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gweithredu ar newid hinsawdd.