Rosie Gillam

Mae Rosie wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a hyrwyddo ffyrdd cydweithredol o weithio, trwy gynyddu ynni cymunedol a chyflwyno addysg i ysgolion. Mae hi hefyd yn frwd dros ddatblygu arferion gwaith sy’n rhoi ystyriaeth i gyfraniad ynni adnewyddadwy at yr argyfwng ecolegol ac at anghyfiawnder cymdeithasol, a thros hybu ymwybyddiaeth o’r materion hyn. Ar ôl graddio yn 2015 gydag MEng mewn Ynni Adnewyddadwy mae hi wedi gweithio ar brosiectau solar cymunedol mawr a bach. Mae hi wedi gweithio i Awel Aman Tawe ar brosiectau Egni Co-op ers 2018 ac arweiniodd y gwaith o ehangu portffolio solar ar doeon Egni Co-op yn helaeth. Mae hi wedi creu cysylltiadau â phartneriaid ac wedi sefydlu systemau mewnol a fydd yn caniatáu i Egni Co-op ffynnu.

Rhannu’r Dudalen